
Y gyfrol gyntaf mewn cyfres wreiddiol. Mae'r gyfres yn 'llyfrau darllen hawdd' penigamp, a chyfrinach y llyfrau hyn yw bod dwy stori gref mewn un gyfrol a'r rheiny wedi'u hadrodd yn ffraeth mewn modd patrymog. Elfen bwysig yw'r darluniau llinell sy'n asio'n gelfydd a'r testun. Maen nhw'n straeon ardderchog i'w darllen yn uchel yn ogystal. Y gyfrol gyntaf mewn cyfres wreiddiol newydd sbon. Mae Y Dyn Gwyrdd am ffenest eglwys hud syn ymateb i'r bobl leol sy'n camymddwyn. Cawn hanes merch fach syn achub y tylwyth teg rhag cael bai ar gam yn stori Y Goedlan Deg. Bu'r straeon gwerin a fu'n rhan o gyfres Gwalch Balch yn llwyddiannus iawn ac yn llyfrau darllen hawdd penigamp. Cyfrinach y llyfrau hyn yw bod dwy stori gref mewn un cyfrol. Maen nhwn straeon ardderchog i'w darllen yn uchel yn ogystal. Elfen bwysig yw'r darluniau llinell syn asio'n gelfydd â'r testun. Mae Manon Steffan Ros yn awdur poblogaidd a dderbyniodd wobr Tir na n-Og. Llawn darluniau du-a-gwyn difyr a doniol gan arlunydd poblogaidd.
Page Count:
63
Publication Date:
2014-01-01
No comments yet. Be the first to share your thoughts!