
Cyfrol fach Jane Ellis o emynau a gyhoeddwyd yn 1816 yw'r gyfrol brintiedig gyntaf yn y Gymraeg gan ferch. Cyhoeddir testun trydydd argraffiad 1840 sy'n cynnwys carolau a marwnadau yn ogystal ag emynau. Bardd gwlad oedd Jane Ellis ac, felly, mae gwedd gymdeithasol gref i'w cherddi. Marwnadodd bobl ei chynefin, yn ogystal â'i gw^r a'i merch, Elizabeth. Y mae ei cherddi yn taflu goleuni ar sawl pwnc pwysig: profiadau menywod, twf diwydiannaeth a hynt Methodistiaeth yn siroedd Fflint a Dinbych. Bydd y golygiad beirniadol hwn gan Rhiannon Ifans yn dyfnhau ein dealltwriaeth o natur a datblygiad canu menywod yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Page Count:
151
Publication Date:
2010-01-01
ISBN-10:
1906784183
ISBN-13:
9781906784188
No comments yet. Be the first to share your thoughts!